Clwb Yr Urdd

Cynhelir Clwb yr Urdd ar brynhawn Llun (3:30-4:15yp). Mae croeso i blant o Flwyddyn 2 i fyny ymuno â changen Urdd yr ysgol. Anfonir gwybodaeth am sut i ymaelodi gyda’r Urdd ar gychwyn blwyddyn ysgol.

Mae gweithgareddau Clwb yr Urdd yn cynnwys:

Urdd Club activities include:

  • Chwaraeon
  • Gemau bwrdd
  • Bingo
  • Celf a Chrefft
  • Cerddoriaeth

Mae bod yn aelod o gangen Urdd yr ysgol yn galluogi disgyblion i gymryd rhan mewn cystadlaethau lleol, ardal a chenedlaethol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Canu
  • Chwaraeon
  • Celf a Chrefft

Yn flynyddol, rhoddwn y cynnig i ddisgyblion blwyddyn 3 a 4 fynychu cwrs preswyl un noson yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn. Dyma gyfle i brofi gweithgareddau megis dringo, canŵio, cyfeiriannu, disgo, adeiladu rafft, bowlio deg, bingo, cwis, nofio a llawer mwy.

Gweinyddiaeth

Y Fali
Ynys Môn
LL65 3EU

Pennaeth:

Iolo Evans

Rhif ffôn:

01407740518

Ysgol Gymuned Y Fali © 2018. Cedwir pob hawl.