Mae bob plentyn yn yr ysgol yn unigolyn, yn arbennig ac yn bwysig. Rydym yn talu sylw manwl i hyn wrth baratoi cwricwlwm eang, diddorol a heriol ar gyfer y plant. Rydym yn gosod sylfeini cadarn a fydd yn eu paratoi ar gyfer yr ysgol uwchradd ac yn eu galluogi i fod yn aelodau gwerthfawr o gymdeithas maes o law.