Addysg Gorfforol

Mae pob dosbarth yn cael sesiynau Addysg Gorfforol dwy waith yr wythnos, arwahan i’r dosbarth Meithrin sy’n cael un sesiwn yr wythnos. Yn Ysgol Fali rydym yn credu bod hybu ffitrwydd a cadw’n iach yn hollbwysig i ddisgyblion o oedran cynnar.

Mae’r sesiynau yn newid pob hanner tymor ac maent yn cynnwys rhai o’r canlynol;

  • nofio
  • dawns
  • gymnasteg
  • sgiliau pel
  • pel droed
  • athletau
  • rygbi
  • cyfeiriannu
  • pel rwyd
  • ioga
  • gemau goresgyn
  • gemau buarth
  • criced

Rydym yn cael pobl allanol i ymweld a’r ysgol ar adegau sydd yn cynnig sesiynau yn eu meysydd arbenigedd. Bydd clybiau Addysg Gorfforol yn cael eu cynnig ar ol ysgol am gyfnodau yn ystod y flwyddyn.Mae cyfleoedd i blant chwarae mewn timau yn erbyn ysgolion eraill a bydd rhai gweithgareddau yn cael eu cynnal oddi ar dir yr ysgol.

Byddwn yn cynnal wythnos/diwrnod ffitwydd yn flynyddol yn yr ysgol ble bydd gweithgareddau a gweithdai corfforol a cadw’n iach yn cael eu cynnal gyda pobl allanol yn cynnig arbenigedd yn eu sesiynau a chyfle i’r disgyblion gael blas ar sesiynau chwaraeon amrywiol sydd ddim yn cael eu cynning yn yr ysgol megis bocsio a codi pwysau yn ogystal a chwaraeon eraill. Mae’r ysgol yn cael llwyddiant mawr mewn cystadlaethau sirol.

Gweinyddiaeth

Y Fali
Ynys Môn
LL65 3EU

Pennaeth:

Iolo Evans

Rhif ffôn:

01407740518

Ysgol Gymuned Y Fali © 2018. Cedwir pob hawl.