Amdanom ni

Croeso i wefan Ysgol Y Fali.

Mae Ysgol Gymuned y Fali wedi ei lleoli yng ngogledd orllewin Ynys Môn. Saif y pentref ar ffordd yr A5. Mae hi'n ysgol ddwyieithog sydd yn darparu addysg i blant rhwng 3 ac 11 oed. Mae oddeutu 105 o blant ar y gofrestr.

Mae pedwar dosbarth yn yr ysgol. Bydd plant meithrin yn ymuno â’r dosbarth derbyn rhwng 09:00 a 11:15 bob dydd. Mae cylch meithrin y pentref yn cael ei gynnal yn yr ysgol. Mae ar agor rhwng 09:00 a 11:00 bob dydd.

Os ydy eich plant yn dechrau yn yr ysgol, rydym yn edrych ymlaen i gychwyn partneriaeth hapus a llwyddiannus. Os ydy eich plentyn eisoes yn yr ysgol, dymunwn barhau gyda’r bartneriaeth a’i chryfhau.

Gweinyddiaeth

Y Fali
Ynys Môn
LL65 3EU

Pennaeth:

Iolo Evans

Rhif ffôn:

01407740518

Ysgol Gymuned Y Fali © 2018. Cedwir pob hawl.