Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae’r ysgol yn adnabod thalentau a doniau’r unigolyn ond yn ystod eu hamser yn Ysgol y Fali, efallai bydd rhai disgyblion yn wynebu anawsterau gyda rhannau o’r gwaith. Gallai’r plant hyn fod angen cymorth ychwanegol neu wahanol i’r hyn a gaiff plant eraill o’r un oedran. Mae pob plentyn yn unigolyn gyda gwahanol anghenion, mae rhai galluog iawn, eraill yn llai felly. Bydd anghenion pob plentyn yn cael eu hasesu gan eu hathrawon a gwneir darpariaeth yn unol â hynny. Mae gan yr ysgol drefn ble gellir roi cymorth ychwanegol yn ol yr angen.

Bydd yr athrawon yn trafod hyn gyda’r rhieni. Sicrheir fod anghenion yn cael eu darganfod a’u nodi yn gynnar ar gofrestr ADY’r ysgol yn unol a hynny. Os bydd yr anawsterau yn parhau bydd yr ysgol yn cysylltu a’r Awdurdod Addysg a fel rheol bydd cyngor ar gael gan Athro Arbenigol neu’r Seicolegydd Addysgol. Bydd y plant hyn yn dilyn Cynllun Datblygu Unigol ac yn derbyn y cymorth priodol. Darparir bamffled pwrpasol ar gyfer rhieni yn egluro’r drefn yma mewn manylder.

Mae dylanwad yr adnabyddiaeth cynnar i’w weld yn nghynnydd a llwyddiant y plant erbyn diwedd CA2. Dros y 3 mlynedd ddiwethaf mae 100% o blant ar y gofrestr ADY yn cyrraedd Dangosydd Pwnc Craidd erbyn iddynt adael yr ysgol.

Mae’r ysgol yn ymrwymedig i sicrhau bod ei holl ddisgyblion yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal ac nid oes unrhyw ddisgybl dan anfantais am ba reswm bynnag. Addaswyd yr adeilad yn effeithiol ar gyfer mynediad i rai ag anableddau. Mae’r dau lifft, ystafell pwrpasol ar gyfer ffisiotherapi, toiledau anabl, lloriau gwrthlithro a rampiau yn yr adeilad sy’n galluogi mynediad llawn i’r Cwricwlwm Cenedlaethol a sicrhau bod disgyblion ag anableddau yn cael eu integreiddio’n llawn holl weithgareddau’r ysgol yn cynnwys chwaraeon, gwersi nofio ac ymweliadau addysgol.

Gweinyddiaeth

Y Fali
Ynys Môn
LL65 3EU

Pennaeth:

Iolo Evans

Rhif ffôn:

01407740518

Ysgol Gymuned Y Fali © 2018. Cedwir pob hawl.