Dewch i ymuno ar hwyl yn ein clwb ar ôl ysgol sy’n cael ei gynnal bob dydd o 3-30yh tan 5-29yh yn ystod tymor yr ysgol. Bydd cynnig i’r plant ymuno mewn llawer iawn o weithgareddau gwahanol yn cynnwys; .Celf a chrefft, Cyfrifiaduron, Sinema (dosbarth) a ‘pop corn’, Coginio, Chwaraeon a gemau. Gofynnwn yn garedig i chi adael i ni wybod ar y Dydd Llun am yr wythnos i ddilyn os yw eich plentyn/plant am fynychu’r clwb.
Mae pob sesiwn yn costio £8 yn cynnwys byrbryd a diod. Arweinydd y clwb yw Mrs Elspeth Jones sydd yn gymhorthydd yn yr ysgol.