Mae Ysgol Gymuned Y Fali yn darparu Clwb Gofal Cyn-ysgol am dal a Chlwb Brecwast di-dal. Mae’r clybiau yn cynnig cyfle i’r disgyblion gymdeithasu a bwyta brecwast iach mewn amgylchedd gynnes a chyfeillgar. Mae’r clybiau yn cynnig gwasanaeth cyfleus a dibynadwy yn ystod y tymor ysgol.
Cynhelir y Clwb Gofal Cyn-ysgol rhwng 8:00 a 8:25 a’r Clwb Brecwast o 8:25 tan 8:50. Y gost ar gyfer y Clwb Gofal Cyn-ysgol yw £1 y dydd i bob plentyn. Os oes tri neu fwy o blant o’r un teulu yn mynychu’r clwb yna’r gost yw £2 y dydd ar gyfer y teulu.