Ein Nodau

1
Creu amgylchfyd ac awyrgylch lle y gall disgybl dyfu, datblygu ac aeddfedu i ddod yn unigolyn hyderus, yn ymwybodol o les eraill ac yn aelod cyfrifol o’r gymdeithas.

 

2
Cynnig addysg o’r ansawdd uchaf posibl sydd yn adlewyrchu gofynion yr Awdurdod, y Llywodraeth, gymdeithas a’r unigolyn.

 

3
Galluogi pob disgybl i ddatblygu i fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg fel y gall gymryd rhan llawn ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol y gymdeithas ddwyieithog.

 

4
Meithrin cymdeithas wâr sy’n rhoi pwys ar werthoedd moesol a dyngarol, gan ddatblygu hunan barch a goddefgarwch at eraill.

 

5
Gosod seiliau ar gyfer sicrhau dysgu ac addysgu effeithiol yn yr ysgol.

 

6
Sicrhau cwricwlwm eang, cytbwys, perthnasol a chyfoethog.

 

7
Galluogi pob unigolyn i feithrin gwybodaeth, agweddau a medrau sy’n berthnasol i fywyd cyfoes, addysgu am oes a defnyddio amser hamdden yn greadigol.

 

8
Sicrhau cyfleoedd cyfartal a mynediad i’r cwricwlwm cyflawn.

Gweinyddiaeth

Y Fali
Ynys Môn
LL65 3EU

Pennaeth:

Iolo Evans

Rhif ffôn:

01407740518

Ysgol Gymuned Y Fali © 2018. Cedwir pob hawl.