Rhifedd

Mae rhifedd yn gryfder yn Ysgol Gymuned y Fali yn y Cyfnod Sylfaen a’r adran Iau ac yn holl bwysig yn natblygiad plant ifanc. Yma yn Ysgol y Fali byddwn, o’r dosbarth Meithrin i fyny, yn sicrhau cyfleoedd i blant gael dysgu ac ymarfer eu sgiliau mewn sefyllfaoedd trawsgwricwlaidd sydd yn hwyl ac o ddiddordeb iddynt.

Nid ydym yn dilyn cynllun masnachol yn yr ysgol ond mae’r athrawon yn cynllunio gweithgareddau yn ofalus sydd yn sicrhau fod yr holl sgiliau mathemateg angenrheidiol yn cael eu cyflwyno i blant cyn iddynt eu defnyddio mewn tasg neu briosect. Bydd dilyniant clir o flwyddyn i flwyddyn sydd yn rhoi cyfle i herio pob unigolyn. Golyga hyn fod ein cwricwlwm yn cael ei deilwra yn arbennig at ofynion ein plant.
Pob hanner tymor mae athrawon o flwyddyn 1 i fyny yn creu ac yn defnyddio matiau mathemateg lliwgar a diddorol wedi eu selio ar waith thema neu ddigwyddiad lleol neu ryngwladol.
Yn flynyddol byddwn yn cynnal noson i rieni ar gyfer cynnig syniadau ar sut i roi cymorth i’w plant gartref gyda rhifedd.

Mae’r ysgol yn ymfalchio eu bod yn gyson ymysg ysgolion gorau’r wlad ym maes mathemateg.

Rhai enghreifftiau o weithgareddau rhifedd trawsgwricwlaidd.:
Cyfnod Sylfen:

  • Mathemateg yn greiddiol yn ardaloedd y dosbarth.
  • Mesur, amseru, pwyso, trefnu, didoli, rhagfynegi, amcangyfrif i gyd yn digwydd yn naturiol o fewn gweithgareddau dyddiol o fewn y thema.
  • Cynllunio, mesur ac adeiladu lloches
  • Jack a’r goeden Ffa. Plant yn edrych ar ol pres, cyfri’r arian a’i yrru i’r banc.
  • Adeiladu blodyn haul, mesur, trin a thrafod siapiau.

Adran Iau.

  • Trefnu ‘Noson Campio’ gan gyfrifo nifer a cost bwyd sydd ei angen ar gyfer y plant a staff.
  • ‘Sialens £1’. Bydd pob plentyn yn derbyn £1 ac mae ganddynt 1 wythnos ar gyfer gwneud cyn gymaint o elw a phosib trwy brynnu a gwerthu nwyddau. Llynedd gwelwyd elw o dros £500
  • Garddio: pwyso pridd, cynllunio gardd yr ysgol i raddfa.
  • Pwyso bag i fynd ar wyliau gan gyfrifo gwahaniaeth rhyngddynt a darganfod y modd a cymedr.
  • Adeiladu pontydd: cynllunio pontydd i’r raddfa gywir, profi pontydd gyda newtonau.
  • Gwledydd y byd ac amser 24 awr.
  • Dathlu diwrnod Pi
  • Coginio. Pwyso, mesur a defnyddio cymhareb.

Lluniau

Gweinyddiaeth

Y Fali
Ynys Môn
LL65 3EU

Pennaeth:

Iolo Evans

Rhif ffôn:

01407740518

Ysgol Gymuned Y Fali © 2018. Cedwir pob hawl.