Ymuno â’r Ysgol

Bob mis Medi gwneir ymdrech i dderbyn plant a fydd yn cael eu penblwydd yn 4 oed cyn yr Awst 31 canlynol. Mae mwyafrif o’r plant sy’n dechrau yn y Feithrin wedi mynychu Cylchoedd Meithrin am gyfnod o flwyddyn neu ddwy. Er mwyn sicrhau trosglwyddiad llyfn o’r cartref i’r ysgol trefnir ymweliadau i’r plant a’u rhieni yn ystod tymor yr haf. Trefnir cyfarfod i’r rhieni gyda’r Pennaeth a’r Athrawon Cyfnod Sylfaen er mwyn egluro trefniadaeth gyffredinol yr ysgol.

Darperir llyfryn Gwybodaeth, a ffurflenni i’w llenwi ar gyfer y rhieni newydd.

Mae`r Awdurdod Addysg yn caniatau ‘mynediad’ i’r ysgol ar gyfer pob disgybl. Bydd yr Awdurdod yn unig yn rhoi caniatad os yw disgybl yn gallu dechrau`r ysgol. Nid yw`r Pennaeth yn gallu rhoi caniatad. Er mwyn cael lle yn yr ysgol rhaid cysylltu â`r Awdurdod Addysg yn Llangefni. Gallwch roi manylion eich plentyn i`r ysgol ond RHAID cysylltu â`r Awdurdod Addysg.

Gweinyddiaeth

Y Fali
Ynys Môn
LL65 3EU

Pennaeth:

Iolo Evans

Rhif ffôn:

01407740518

Ysgol Gymuned Y Fali © 2018. Cedwir pob hawl.