Yn Ysgol Fali, rydym yn credu’n gryf mewn rhoi profiadau gwerthfawr i’r plant ble maent yn gallu uniaethu gyda hwy wrth ddatblygu eu haddysg. Yn bennaf, byddem yn sicrhau fod o leiaf un trip neu ymweliad yn cyd-fynd gyda thema’r dosbarth, sydd yn rhoi cyfle i blant profi’r pwnc mewn ffordd fyw a chyffroes.
Bydd plant o’r Meithrin i fyny yn cael cyfle i ymweld â llefydd fel y pentref, Glan y Môr, y goedwig a busnesau ac archfarchnadoedd lleol fel rhan o’u haddysg a phan fo’n bosib bydd arbenigwr yn trafod y lleoliad a’r gwaith gyda hwy. Yng nghyfnod allweddol 2 bydd plant yn cael cyfleoedd i ymweld â llefydd fel Pont y Borth, Melin Llynnon, Castell Biwmaras a’r Amgueddfa Lechi yn Llanberis.
Diolch i gyn-riant o’r ysgol mae’r plant, yn flynyddol, yn cael gwahoddiad i Drac Môn i’r ‘Race of Remembrance’ ac yn cael eu hebrwng o amgylch nifer fawr o’r ardaloedd sydd ar gau i’r cyhoedd. Flwyddyn hon bu iddynt fod yn ddigon ffodus i gyfarfod a’r beiciwr Olympaidd, Sir Chris Hoy.
I gyd-fynd gyda thema Ail Ryfel Byd mae plant Blwyddyn 5&6 (pob yn ail flynedd) yn mynd ar daith i Ewrop. Maent yn ymweld â lleoliadau megis Tŷ Anne Frank yn Amsterdam,y ffosydd, Tyne Cot ac amgueddfeydd yn wlad Belg, a bedd y prifardd Hedd Ŵyn. Teithiai’r plant mewn bws moethus a byddent yn aros mewn gwestai yn Ypres ac Amsterdam. Mae hon yn daith 4 diwrnod sydd yn cael ei chynnig i bob plentyn ym Mlwyddyn 5 a 6 ac mae o leiaf 4 aelod o staff yr ysgol yn mynd gyda hwy. Flwyddyn ddiwethaf cafodd llyfr o ddyddiaduron y plant ei gyhoeddi a’i werthu i rieni ac mae copi ar gael yn yr ysgol.
Pob blwyddyn arall mae plant Blwyddyn 5&6 yn mynd i Lundain dros nos. Byddant yn ymweld â’r Tai Cyffredin, y Stadiwm Olympaidd a cael y profiad o wylio sioe gerddorol e.e Charlie and the Chocolate Factory.
Ar ddiwedd pob blwyddyn addysgol, bydd dosbarth blwyddyn 5&6 yn mynd i gampio i wersyllfa gyfagos am noson ble byddent yn canŵio, nofio, chwarae gemau tu allan ac yn cael barbiciw. Mae hwn yn un o’r prif ddigwyddiadau blynyddol i’r plant.