Yr ardd

Yn flynyddol mae plant yr ysgol yn brysur yn ystod tymor y gwanwyn/haf yn plannu llysiau, ffrwythau a blodau. Rydym wedi cael cynnyrch llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd. Mae’n bleser gweld ein gardd yn llawn ac yn lliwgar. Rydym yn casglu’r cynnyrch ac yn defnyddio’r llysiau yn ein gwersi coginio, mae’r cynnyrch sydd ar ôl yn cael ei werthu i rieni Mae plannu hadau a’u gwylio’n tyfu yn blanhigion ffrwythlon yn bleserus. Bydd hyn yn dysgu’r plant am hunan gynhaliaeth a chynaladwyedd yn ogystal â bwyta’n iach.

Byddem yn defnyddio’r ardd yn ein gwersi mathemateg hyd yn oed er mwyn dod ar pwnc yn fyw. Mae’n ddiddorol cael, chwilio am a gweld gwahanol anifeiliaid, adar, llyffantod, pryfed a gloÿnnod byw sydd yn byw yn ein gardd, mae’r plant wrth eu bodd cael rhoi bwyd a dwr Iddynt.

Lluniau

Gweinyddiaeth

Y Fali
Ynys Môn
LL65 3EU

Pennaeth:

Iolo Evans

Rhif ffôn:

01407740518

Ysgol Gymuned Y Fali © 2018. Cedwir pob hawl.